P-04-328 Cynigion i Foderneiddio Gwasanaeth Gwylwyr y Glannau gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud asesiadau risg annibynnol o’r effaith ar ddiogelwch twristiaid sy’n ymweld â’r arfordir a fyddai’n dod yn sgil cau Canolfannau Cydgysylltu Achub ar y Môr Aberdaugleddau a Chaergybi ac israddio’r Ganolfan yn Abertawe i weithredu yn ystod ‘oriau dydd’.

Linc i’r ddeiseb:
http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1287&optionId=0

Cyflwynwyd gan: Graham Warlow

Nifer y llofnodion: 293

Diweddariad: Derbyniwyd gohebiaeth gan y Gweinidog dros Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth; Cynghorau Sir Benfro ac Abertawe; Parc Cenedlaethol Arfordir Cymru a PCS.